Y Theatr a’r Celfyddydau

Gwneud bywoliaeth gyda gyrfa sy'n gwneud gwahaniaeth.

Mae Theatr a Chanolfan Celfyddydau Glan yr Afon wrth wraidd y byd adloniant a chelfyddydau yng Nghasnewydd. Ymunwch â thîm sy’n dod â chymuned ynghyd drwy ein rhaglenni llawn dop o waith proffesiynol, cydgynhyrchiadau, ffilmiau, gweithdai, gwyliau a digwyddiadau.

"“Rydw i wrth fy modd yn gweithio gyda chwsmeriaid. Mae’r rhan fwyaf o’m swyddi ers gadael ysgol wedi ymwneud â delio â chwsmeriaid. Rydw i’n dwlu rhyngweithio a phobl a gwneud eu diwrnod yn well, a’u helpu cymaint ag y gallaf. Mae’n gwneud i rywun deimlo’n dda, yndyw e?"

Pytsje, Cynorthwy-ydd Swyddfa Docynnau

Manteision Casnewydd Fyw

Adnoddau o bwys. Gan eich bod chi o bwys.

Rydym yn gwybod bod profiadau bywyd pawb yn wahanol. Dyna pam rydym yn cynnig ystod eang o fuddion i'n holl aelodau tîm llawn amser a rhan amser.

  • pension.svg

    Cynllun Pensiwn

    Cewch fynediad i'r cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a pharatoi ar gyfer y dyfodol yn ogystal â mwynhau heddiw.

  • wage.svg

    Cyflog Byw

    Mae Casnewydd Fyw yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol, felly cewch eich gwobrwyo'n deg am ddiwrnod caled o waith.

  • healthcare.svg

    Iechyd a Lles

    Gallwch leihau eich ôl-troed carbon drwy ymuno â'n Cynllun Beicio i'r Gwaith.

  • discounts.svg

    Gostyngiadau

    Gyda gostyngiadau ar fwyd a diod ar draws lleoliadau Casnewydd Fyw.

  • health.svg

    Tâl Salwch

    Rydyn ni’n cynnig tâl salwch statudol i bob gweithiwr dan gontract.

  • family.svg

    Amser Teulu

    Mae pob gweithiwr dan gontract yn gymwys i dderbyn tâl mamolaeth / tadolaeth / mabwysiadu.

  • flexible.svg

    Hyblygrwydd

    Mae rhai rolau'n caniatáu i chi wneud defnydd o'n polisi amser hyblyg.

  • mental-health.svg

    Iechyd Meddwl

    Gall pob gweithiwr ddefnyddio ein Rhaglen Cymorth Cyflogeion ar gyfer lles cyflogeion.

  • recharge.svg

    Seibiant

    Rydym yn cynnig cyfnodau o amser i weithwyr ddefnyddio cyfnod o absenoldeb, gan gynnwys seibiant gyrfa.

  • fitness.svg

    Ffitrwydd

    Gall pob gweithiwr ddewis defnyddio aelodaeth campfa am ddim, sy’n rhoi mynediad i 4 campfa, dros 100 o ddosbarthiadau, nofio a chwaraeon raced.

Lle mae gwerthoedd personol a phroffesiynol yn cwrdd.

Gwerthoedd Cyffredin

Darllenwch straeon am bobl yn dod â'u gwerthoedd personol yn fyw yng Nghasnewydd Fyw.

#

A sense of belonging within the community

Steve, Wellbeing Coach

Darllen mwy
#

Delivering a positive impact to the community

Andrea, Business Development Director

Darllen mwy
#

Helping people grow in their own direction

Cheryl, Leisure Operations Officer

Darllen mwy
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×