Gweithrediadau

Dechreuwch yrfa yn cefnogi cwsmeriaid.

Rydyn ni’n hwyluso cyfleusterau diogel ar draws dinas Casnewydd ac mae gennym dimau cymwysedig sy’n rhoi sicrwydd i’n cwsmeriaid eu bod mewn dwylo diogel. Mae ein tîm Gweithrediadau yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod ein safleoedd Hamdden a Chelfyddydau’n gweithredu’n ddi-dor, er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn dychwelyd tro ar ôl tro.

"Mae’r rôl Gweithrediadau Hamdden yn cynnwys cynnal y busnes o ddydd i ddydd, gan wneud yn siŵr bod lefelau cywir o staff ar waith, cadw golwg ar iechyd a diogelwch, monitro absenoldeb staff oherwydd salwch, monitro gwyliau blynyddol a bod yno i helpu gyda phopeth mewn gwirionedd.“

Cheryl, Swyddog Gweithrediadau Hamdden

Manteision Casnewydd Fyw

Adnoddau o bwys. Gan eich bod chi o bwys.

Rydym yn gwybod bod profiadau bywyd pawb yn wahanol. Dyna pam rydym yn cynnig ystod eang o fuddion i'n holl aelodau tîm llawn amser a rhan amser.

  • pension.svg

    Cynllun Pensiwn

    Cewch fynediad i'r cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a pharatoi ar gyfer y dyfodol yn ogystal â mwynhau heddiw.

  • wage.svg

    Cyflog Byw

    Mae Casnewydd Fyw yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol, felly cewch eich gwobrwyo'n deg am ddiwrnod caled o waith.

  • healthcare.svg

    Iechyd a Lles

    Gallwch leihau eich ôl-troed carbon drwy ymuno â'n Cynllun Beicio i'r Gwaith.

  • discounts.svg

    Gostyngiadau

    Gyda gostyngiadau ar fwyd a diod ar draws lleoliadau Casnewydd Fyw.

  • health.svg

    Tâl Salwch

    Rydyn ni’n cynnig tâl salwch statudol i bob gweithiwr dan gontract.

  • family.svg

    Amser Teulu

    Mae pob gweithiwr dan gontract yn gymwys i dderbyn tâl mamolaeth / tadolaeth / mabwysiadu.

  • flexible.svg

    Hyblygrwydd

    Mae rhai rolau'n caniatáu i chi wneud defnydd o'n polisi amser hyblyg.

  • mental-health.svg

    Iechyd Meddwl

    Gall pob gweithiwr ddefnyddio ein Rhaglen Cymorth Cyflogeion ar gyfer lles cyflogeion.

  • recharge.svg

    Seibiant

    Rydym yn cynnig cyfnodau o amser i weithwyr ddefnyddio cyfnod o absenoldeb, gan gynnwys seibiant gyrfa.

  • fitness.svg

    Ffitrwydd

    Gall pob gweithiwr ddewis defnyddio aelodaeth campfa am ddim, sy’n rhoi mynediad i 4 campfa, dros 100 o ddosbarthiadau, nofio a chwaraeon raced.

Lle mae gwerthoedd personol a phroffesiynol yn cwrdd.

Gwerthoedd Cyffredin

Darllenwch straeon am bobl yn dod â'u gwerthoedd personol yn fyw yng Nghasnewydd Fyw.

#

Cyflawni effaith gadarnhaol ar y gymuned

Andrea, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes

Darllen mwy
#

Helpu pobl i dyfu i'w cyfeiriad eu hunain

Cheryl, Swyddog Gweithrediadau Hamdden

Darllen mwy
#

Ymdeimlad o berthyn yn y gymuned

Steve, Hyfforddwr Lles

Darllen mwy
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×