Casnewydd Fyw yw lle byddwch yn gweithio gydag eraill sy'n rhannu eich angerdd. Lle mae parch iach at ddewrder a meddwl gwreiddiol yn eich ysbrydoli i ddod â'ch gorau i'r hyn rydym yn ei wneud gyda'n gilydd.
Rydym yn elusen hwylus, bywiog, a chyffrous i weithio iddi.
Felly, p'un a ydych yn croesawu ein cwsmeriaid a'n cynulleidfaoedd, sicrhau diogelwch a lles ein defnyddwyr pyllau, ysgogi pobl i gymryd rhan mewn ymarfer corff neu annog ymgysylltu â gweithgareddau chwaraeon a chelfyddydol cymunedol, mae digon o gyfleoedd ar gyfer gyrfa gyffrous a boddhaus gyda ni.
Mae Casnewydd Fyw yn cydnabod bod ei staff yn gwneud y gwahaniaeth a’u bod o hyd yn chwilio am ragor o bobl â gwerthoedd gwych i ymuno â’r tîm. Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’n cyfleoedd presennol, byddwn wrth ein bodd yn clywed gennych.
I wneud cais am unrhyw un o’n rolau, cwblhewch ffurflen gais Casnewydd Fyw. I gydymffurfio â Monitro Cyfle Cyfartal, mae adran ychwanegol i chi ei chwblhau.
"Dwi jyst wir yn caru'r ffordd mae Casnewydd Fyw yn darparu profiad i'w gwsmeriaid, a phawb i fod yn onest. Yn bersonol, i fi mae'n fwy o ran profiad y cwsmer, achos dwi'n mynd i'r brifysgol, dwi angen profiad cwsmer un-i-un, felly dwi'n meddwl bod hwn yn swydd eithaf da."
Dyma ychydig o'r ffyrdd y gallwch chi wneud gwahanol yng Nghasnewydd Fyw.
Rydym yn anelu at fod y dewis cyntaf ar gyfer chwaraeon, hamdden, theatr, y celfyddydau a diwylliant yng Nghasnewydd ac yn cynnig gwasanaethau ac amrywiaeth o weithgareddau yn y lleoliadau canlynol:
© Hawlfraint Casnewydd Fyw 2025
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now