Mae Casnewydd Fyw yn cefnogi cynnydd mewnol felly rydyn ni i gyd yn cael cyfle i ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol hyd at lefel benodol i gael mwy o brofiadau… Mae gennym ddigon o gyfleoedd i ddatblygu ein sgiliau ymhellach.
“Os ydych chi am wneud cynnydd yn eich gyrfa, a dyna yw eich natur, mae Casnewydd Fyw yn cynnig digon o gymwysterau. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hyfforddwr ffitrwydd neu ddosbarth grŵp, neu ennill cymwysterau rheoli uwch fel IOSH a thebyg, mae Casnewydd Fyw yn hapus i’ch ariannu; mae’n fuddiol i chi ac i’r cwmni hefyd.”
Mae’r staff yma yng Nghasnewydd Fyw yn werth y byd. Mae’r cyfeillgarwch rydych chi’n ei feithrin yma yn para oes. Rydw i wedi gwneud ffrindiau da yma – wedi mynd ar wyliau gyda nhw ac rydyn ni wedi dathlu pen-blwyddi a phriodasau. Rydyn ni yn y gwaith; rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd fel tîm i gyflawni pethau. Rydyn ni’n cefnogi ein gilydd yn bersonol ac yn broffesiynol. Does dim dwywaith amdani, rydyn ni wir yn gefn i’n gilydd.