Mae’n swnio’n ystrydebol iawn, ac rydw i wedi dweud hyn ar sawl achlysur, rydw i wir yn teimlo bod y balchder a’r ymdeimlad o falchder rydw i’n ei gael yn fy swydd yn anhygoel. A dwi'n dod o Gasnewydd, ges i fy ngeni yng Nghasnewydd, gyda fy nheulu a ffrindiau a’r bobl dwi'n byw yn eu plith yma - rydyn ni'n cael effaith mor gadarnhaol ar yr holl bobl hyn, pam na fyddech chi'n mwynhau swydd o’r fath?
“Felly, rydyn ni wir yn meddwl am bob un ystyriaeth, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Maent yn sylfaenol ar draws ein sefydliad trwy ein cwsmeriaid, ond hefyd yn bwysig i’n cydweithwyr a'n staff”
Rydyn ni'n dysgu o'n gilydd bob dydd ac rwy’n meddwl ei fod e’n lle anhygoel i weithio. Mae'n dod â heriau wrth gwrs, mae gennym heriau, mae gennym rwystredigaethau ond rwy'n credu yn y pen draw ein bod ni i gyd ar yr un llwybr ac rydyn ni i gyd eisiau cyflawni'r nod cyffredin hwnnw.