Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol a Canolfan Byw’n Actif
Chwaraeon a Hyfforddi
Gwnewch Gais Nawr Yn ôl i ganlyniadau’r chwilioPostiwyd: 18 Nov 2022
Closing Date: Recriwtio parhaus
Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth arobryn nid er elw sy’n ymwneud â chwaraeon, hamdden a diwylliant; ac yn Elusen gofrestredig y DU sydd â hanes ardderchog o ddarparu rhaglenni a gwasanaethau arloesol i'n cymunedau a’n trigolion sy'n 'ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach'. Rydym yn dymuno recriwtio Athrawon Nofio â chymwysterau addas i ymuno â'n Tîm Nofio yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol a rhaglenni’r Ganolfan Byw’n Actif.
Byddwch yn meddu ar gymhwyster Athrawon Nofio Lefel 1 ASA/STA o leiaf, ynghyd â phrofiad perthnasol o hyfforddi, gan ddangos y gallu i ddarparu gwersi nofio o ansawdd uchel i bobl ifanc ac oedolion ar draws ystod eang o alluoedd.
Byddwch yn aelod allweddol o'r tîm o ran darparu a chynnal gwersi nofio effeithiol o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc ac oedolion, yn rhan o'n rhaglen nofio integredig.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch ag ymholiadau Casnewydd Fyw ar 01633 656757 a gofyn i siarad â Richard Dale, Pennaeth Datblygu Busnes neu e-bostiwch [email protected]
© Hawlfraint Casnewydd Fyw 2024
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now