Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon
Bwyd a Diod
Gwnewch Gais Nawr Yn ôl i ganlyniadau’r chwilioPostiwyd: 26 May 2023
Closing Date: Recriwtio parhaus
Mae Casnewydd Fyw yn dymuno recriwtio unigolyn brwdfrydig, bywiog, a hunangymhellol ar sail achlysurol fel Cynorthwy-ydd Bwyd a Diod. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar draws holl leoliadau Casnewydd Fyw gan gynorthwyo i ddarparu profiad cadarnhaol i gwsmeriaid yn ein hadran Arlwyo.
Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio yn y caffi a'r bariau ynghyd â helpu i drefnu a chynnal partïon plant. Bydd hyn yn gynnwys gweini a pharatoi bwyd, trin arian parod, glanhau ardaloedd arlwyo a pharatoi ardaloedd ar gyfer partïon plant.
Bydd angen i ddeiliad y swydd weithio yn ystod y bore, gyda'r nos ac ar benwythnosau. Bydd hyn yn cael ei drafod yn ystod y cam cyfweld.
Mae’r swydd wedi’i heithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac mae’n amodol ar wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) llwyddiannus.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch ag Ymholiadau Casnewydd Fyw ar 01633 656757 a gofynnwch i siarad â Lorraine Hancock, Rheolwr Bwyd a Diod neu cysylltwch â Lorraine Hancock yn [email protected]
© Hawlfraint Casnewydd Fyw 2024
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now