Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol
Chwaraeon a Hyfforddi
Gwnewch Gais Nawr Yn ôl i ganlyniadau’r chwilioPostiwyd: 05 Aug 2022
Closing Date: Recriwtio parhaus
Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth arobryn nid er elw sy’n ymwneud â chwaraeon, hamdden a diwylliant; ac yn Elusen gofrestredig y DU sydd â hanes ardderchog o ddarparu rhaglenni a gwasanaethau arloesol i'n cymunedau a’n trigolion sy'n 'ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach'.
Byddwch yn meddu ar gymhwyster Cymdeithas Tenis Lawnt Lefel 3 o leiaf, ynghyd â phrofiad perthnasol yn hyfforddi, gan ddangos y gallu i ddarparu gwersi tenis o ansawdd uchel i bobl ifanc ac oedolion ag ystod eang o alluoedd.
Rydym yn dymuno recriwtio Hyfforddwr Tenis â chymwysterau Lefel 2 addas i ymuno â'n Tîm Datblygu Tenis arobryn yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol.
Bydd y rôl yn cynnwys hyfforddi chwaraewyr Iau ac Oedolion o bob oed a phrofiad o fewn Rhaglen Tenis Canolfan Tenis Casnewydd. Bydd cyflwyno Rhaglen Ieuenctid y Gymdeithas Tenis Lawnt a Mentrau eraill y Gymdeithas Tenis Lawnt eraill fel Youth Start a Tennis Xpress hefyd yn rhan bwysig o’r rôl ochr yn ochr â'n gwersi Grŵp presennol.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch ag ymholiadau Casnewydd Fyw ar 01633 656757 a gofynnwch am gael siarad â Luke Difranco, Rheolwr Tennis, neu e-bostiwch [email protected].
© Hawlfraint Casnewydd Fyw 2025
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now