Gwent Actif- Cyfarwyddwr Rhanbarthol

Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol

Chwaraeon a Hyfforddi a Gwasanaethau Cynnal

Gwnewch Gais Nawr Yn ôl i ganlyniadau’r chwilio

Crynodeb

Postiwyd: 15 Apr 2026

Closing Date: 01 May 2026

Mae hwn yn gyfle cyffrous i arweinydd profiadol, trawsnewidiol fedr helpu i siapio dyfodol chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn rhanbarth Gwent fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol. Rydyn ni’n chwilio am unigolyn ysbrydoledig sy'n angerddol am werth ac effaith chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol a'r gred y dylai pawb fod yn actif gyda'i gilydd, am oes. Bydd y rôl hon yn darparu'r arweinyddiaeth, yr egni, y wybodaeth a'r sgiliau i sbarduno Gwent Actif fel partneriaeth gredadwy, arloesol a chynaliadwy sy'n cynrychioli rhanbarth Gwent gyfan. Bydd y tasgau'n amrywiol, yn heriol, ac yn aml yn gymhleth.


Hours, Pay and Benefits

Cyflog: £60,000-£70,000 y flwyddyn (ynghyd â phecyn pensiwn).

Oriau: Oriau gwaith hyblyg, llawn amser o fewn cyfnodau craidd. Bydd disgwyl i’r Cyfarwyddwr Rhanbarthol fynychu digwyddiadau / cyfarfodydd y tu allan i gyfnodau craidd.


Key Experiences and Qualifications

Tystiolaeth sylweddol neu brofiad amlwg ac effeithiol mewn swydd arweinyddiaeth.

Tystiolaeth sylweddol o arwain a gweithredu gweledigaeth a strategaeth.

Tystiolaeth sylweddol o wneud penderfyniadau sy'n cael eu harwain gan ddata sydd wedi gwella gwasanaethau.

Profiad sylweddol o weithio mewn partneriaeth rhwng sectorau, fel awdurdodau lleol, addysg bellach, addysg uwch, y trydydd sector a/neu iechyd

Profiad clir o weithio gydag uwch swyddogion ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol

 Profiad o arwain prosiectau strategol rhanbarthol • Profiad o arwain newid mewn amgylchedd amlasiantaeth.

Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol a / neu brofiad sylweddol a pherthnasol clir.


Role Requirements

Mae'r rôl yn cynnig y cyfle i chi wella bywydau tua 600,000 o drigolion Gwent drwy hyrwyddo chwaraeon a gweithgareddau cymunedol yn gyffredinol. Fel partneriaeth chwaraeon newydd mae gennym y cyfle i ail-lunio sut mae chwaraeon ac ymarfer corff yn cael eu cyflwyno a'u hyrwyddo ledled Gwent. Byddwch yn gweithio gyda'r pum awdurdod lleol, Chwaraeon Cymru a rhanddeiliaid allweddol yn y rhanbarth, gan gyflwyno ffyrdd newydd o weithio. Fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol byddwch yn gyfrifol am lunio ein gweledigaeth a'n strategaeth, gan weithio'n agos gyda'r Cadeirydd a'r bwrdd. Rydyn ni'n awyddus i gydweithio a chael mynediad at arfer gorau lle bynnag y mae'n bodoli, a'i ledaenu ledled Gwent.


Gwnewch Gais Nawr


Cyswllt y Swydd

Am ragor o fanylion am y rôl neu i drafod eich cais, cysylltwch â Jon Morgan drwy anfon e-bost at: [email protected]

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×